Yn chwilio am Gynorthwyydd Addysgu sy'n siarad Cymraeg!
TeacherActive Ltd
Salary
£14.25 to £14.25 an hour
Location
SY23
Contract type
Full time
Job description
- About
Teitl y Swydd: Athro/Athrawes Gynradd Cyfrwng Cymraeg
Lleoliad: Ceredigion
Dyddiad Dechrau: Dechrau ar unwaith
Cyflog: £172.98 y dydd
Allwch chi ysbrydoli meddyliau ifanc drwy gyflwyno gwersi diddorol a deniadol yn y Gymraeg?
Oes gennych chi sgiliau rheoli dosbarth cryf a'r gallu i addasu eich dulliau addysgu ar draws gwahanol grwpiau blwyddyn mewn ysgol gynradd?
Ydych chi'n siarad Cymraeg yn rhugl ac yn meddu ar ddealltwriaeth gadarn o'r Cwricwlwm i Gymru?
Mae TeacherActive yn falch o fod yn gweithio gydag ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg ledled Ceredigion sy'n chwilio am Athro neu Athrawes Gynradd Cyfrwng Cymraeg ymroddedig a brwdfrydig. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu athrawon cynradd ymroddedig, angerddol ac o safon uchel i'n hysgolion, yn ogystal â chynnig cyfleoedd arbenigol mewnol ar gyfer datblygiad gyrfa er mwyn cynnal ein safonau uchel.
P'un a ydych chi'n athro neu'n athrawes gynradd sy'n chwilio am waith cyflenwi o ddydd i ddydd, swydd hirdymor neu swydd barhaol, mae ein tîm arbenigol o ymgynghorwyr yn gweithio gydag amrywiaeth o ysgolion a lleoliadau addysgol. Byddant ar gael 24/7 i'ch cefnogi drwy ein proses ymsefydlu ar-lein syml a hwylus.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus:
• Statws Athro Cymwysedig (SAC/QTS) – mae croeso hefyd i Athrawon Newydd Gymhwyso (ANG/NQT) wneud cais
• Rhuglder yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig, gyda'r hyder i gyflwyno gwersi drwy gyfrwng y Gymraeg
• Profiad o addysgu mewn ysgol gynradd
• Gwybodaeth a dealltwriaeth gadarn o'r Cwricwlwm i Gymru
• Sgiliau rhagorol o ran rheoli dosbarth a chyfathrebu
• Agwedd hyblyg, frwdfrydig ac addasadwy tuag at addysgu ar draws gwahanol grwpiau blwyddyn mewn ysgol gynradd
Yn gyfnewid am yr uchod, gallwch ddisgwyl derbyn:
• Tîm ymroddedig o ymgynghorwyr sydd ar gael 24/7 i'ch helpu drwy'r broses ymsefydlu syml
• Cyrsiau a thystysgrifau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) fel rhan o sianel My-Progression
• Cyfraddau cyflog sy'n arwain y farchnad
• Cynllun Atgyfeirio TeacherActive – Derbyniwch hyd at £100 pan fyddwch yn cyfeirio ffrind atom.
Mae telerau ac amodau'n berthnasol.
Mae ein staff yn cael eu talu drwy'r system Talu Wrth Ennill (PAYE), felly gallwch fod yn dawel eich meddwl eich bod yn talu'r swm cywir o Dreth Incwm ac Yswiriant Gwladol, heb orfod poeni am daliadau gweinyddol yn cael eu tynnu o'ch cyflog haeddiannol.
Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd Athro/Athrawes Gynradd Cyfrwng Cymraeg hon, cliciwch ar
GWNEWCH GAIS NAWR a byddaf yn cysylltu â chi i drafod y cyfle gwych hwn.
E-BOST:
tomsi.bradley@teacheractive.com
RHIF CYSWLLT: 01792 717477
About TeacherActive
TeacherActive is one of the UK’s leading education recruitment agencies, with over 20 years of experience supporting schools and education professionals. We place teachers and support staff into a wide range of temporary, contract and permanent roles, helping candidates find rewarding opportunities that suit their experience, availability and career goals. We pride ourselves on providing an excellent service to both our schools and candidates.
Equal Opportunities Statement
TeacherActive is an equal opportunities employer and operates as an Employment Business and Employment Agency in providing temporary, contract and permanent job seeking services.
Safeguarding and DBS Compliance
Registration may involve an enhanced DBS check, ID checks and the supply of good professional references, depending on the role. We are committed to safeguarding and compliance across all placements.
Regular external audits have shown repeatedly that our standards are exceptional. We are passionate about finding the right staff for each education environment.
Get the latest UK jobs
Get new job opportunities delivered straight to your inbox.
Explore related jobs
Find more opportunities related to this position.
More jobs you may be interested in
Year 4 Teacher
TeacherActive Ltd
Posted 05 Nov 2026
Nursery Nurse
TeacherActive Ltd
Posted 05 Nov 2026
Nursery Nurses And Teaching Assistants Required
TeacherActive Ltd
Posted 05 Nov 2026
Early Years Practitioner
TeacherActive Ltd
Posted 05 Nov 2026
Education Support Worker
TeacherActive Ltd
Posted 05 Nov 2026
1-1 Support Teaching Assistant
TeacherActive Ltd
Posted 05 Nov 2026