Job description
Learn about the role, responsibilities and what the employer is looking for.
Rydyn ni'n recriwtio Athro/athrawes yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Oriau gwaith: 32.50
Math o gontract: Llawn Amser, Cyfnod Penodol Tan 31 Awst 2027
Lleoliad: Ysgol Gymraeg Bro Allta
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £33,731 - £51,942 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.
Mae Ysgol Gymraeg Bro Allta yn chwilio am athro neu athrawes dosbarth brwdfrydig, gweithgar ac ymroddedig i ymuno â'n tîm cyfeillgar a chefnogol am gyfnod dros dro o ddau dymor.
Rydym yn ysgol Gymraeg hapus, groesawgar a chynhwysol sy'n ymfalchïo mewn cynnig addysg o'r safon uchaf, cyfleoedd cyfoethog a phrofiadau gwerthfawr i bob plentyn.
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd:
Yn athro neu'n athrawes frwdfrydig sy'n gosod lles, cynnydd a hapusrwydd y plant wrth wraidd popeth.
Yn meddu ar sgiliau addysgu rhagorol ac yn gallu ysbrydoli a herio dysgwyr.
Yn greadigol, yn egnïol ac yn barod I gyfrannu syniadau newydd.
Yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a chydweithio effeithiol.
Yn gallu meithrin perthnasoedd cadarnhaol â phlant, staff a rhieni.
Yn meddu ar ddealltwriaeth dda o'r Cwricwlwm i Gymru.
Yn ymrwymedig i hyrwyddo'r Gymraeg, ein diwylliant a'n traddodiadau.
Yn barod i gyfrannu'n llawn at fywyd a gweithgareddau ehangach yr ysgol.
Beth allwn ni ei gynnig?
Plant hapus, brwdfrydig sy'n awyddus i ddysgu.
Tîm o staff croesawgar, gweithgar a chefnogol.
Amgylchedd dysgu cadarnhaol sy'n annog creadigrwydd ac arloesedd.
Cyfleoedd i ddatblygu'n broffesiynol.
Y cyfle i fod yn rhan o ysgol sy'n ymfalchïo yn ei hiaith, ei diwylliant a'i chymuned.
Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal ar 6 Tachwedd 2026.
Ar gyfer y rôl, gofynnwn i chi:
Statws Athro Cymwysedig a wedi cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar hyn o bryd.
Tystiolaeth o brofiad perthnasol llwyddiannus o addysgu, yn cynnwys ymarfer addysgu.
Y gallu i greu amgylchedd dysgu heriol ac effeithiol a meddu ar sgiliau effeithiol i reoli disgyblion.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Athrawon Leol a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau.
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Meinir Jones ar 01443 814883 neu ebost: YsgolGymraegBroAllta@sch.caerphilly.gov.uk
Ffurflenni cais ar gael o wefan ETEACH neu’r ysgol.